CSFM(4)-01-12

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog 11 Gorffennaf

 

Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog –

Nodyn ynghylch cyfarfod preifat

 

Yn bresennol

 

David Melding (Cadeirydd)

Paul Davies

Mark Drakeford

Elin Jones

Eluned Parrott

 

Pa mor aml ac ymhle y caiff y cyfarfodydd eu cynnal

 

1.   Cytunwyd i’r Pwyllgor gyfarfod unwaith bob tymor.

 

2.   Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn ceisio cynnal un cyfarfod bob blwyddyn yng ngogledd, canolbarth neu orllewin Cymru, yn ddelfrydol yn ystod tymor yr haf os bydd hynny’n cyd-fynd ag ymrwymiadau dyddiadur y Prif Weinidog. 

 

Y drefn gyffredinol a chynnwys y cyfarfodydd

 

3.   Cytunwyd y dylai’r Pwyllgor, ym mhob cyfarfod, ystyried un pwnc eang yn ymwneud â gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yn ogystal ag un maes penodol sy’n ganolog i raglen Llywodraeth Cymru.

4.   At y diben hwnnw, penderfynwyd mai’r ddau fater cyntaf y bydd y Pwyllgor yn craffu arnynt fydd:

 

·         Y Rhaglen Ddeddfwriaethol: Rôl y Prif Weinidog yn y broses o ffurfio, cynllunio a chydgysylltu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, y cynnydd a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad o gofio’i bwerau deddfu newydd, cysylltiadau â Chynulliad Cenedlaethol, gallu ac arbenigedd yn y gwasanaeth sifil a’r gymdeithas sifil i gyflwyno’r rhaglen, a hyblygrwydd yn y modd y mae’r Llywodraeth yn ymateb i newid. 

 

·         Hyrwyddo Mentergarwch: Gweledigaeth y Prif Weinidog o ran hyrwyddo “mentergarwch” yn economi Cymru, gan gynnwys sut y caiff mentergarwch ei phrif ffrydio a’i chydgysylltu yn Llywodraeth Cymru drwyddi draw, gan ganolbwyntio ar ddatblygu meysydd polisi trawsbynciol fel ardaloedd menter a mentrau cymdeithasol.  

 

5.   Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgorau i godi eu hymwybyddiaeth o’r gwaith y bydd yn ei wneud, ac i’w gwahodd i gynnig meysydd eraill posibl i’r Pwyllgor graffu arnynt yn y dyfodol.

 

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Gorffennaf 2012

 


 

Atodiad A

 

Pynciau posibl i graffu arnynt yn y dyfodol

 

·         Cysylltiadau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru dramor, gan gynnwys cysylltiadau â Llywodraeth y DU

·         Comisiwn Silk – ymateb Llywodraeth Cymru, y camau nesaf, a’r berthynas â Llywodraeth y DU

·         Meithrin gallu a datblygu’r gwasanaeth sifil yng Nghymru   

·         Uned Gyflenwi’r Prif Weinidog, a’i pherfformiad, yn enwedig ym maes iechyd 

·         Y prif gyfleusterau a’r seilwaith ynni, datganoli materion ynni, a buddsoddi yng Nghymru 

·         Perthynas Llywodraeth Cymru â’r trydydd sector a chyrff anllywodraethol

·         Cynllunio strategol a chorfforaethol yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cysylltiadau rhwng portffolio’r gwahanol adrannau

·         Adfywio, mewn ardaloedd gwledig a threfol

·         Penodiadau cyhoeddus pwysig

·         Y Cod Gweinidogol

·         Cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol a’r berthynas ag Ewrop a Llywodraeth y DU